Cynhaliwyd cystadleuaeth am darian coffa Morgan Parry brynhawn Mercher, Hydref 19 ar Y Morfa.
Mae’n gyfle i fechgyn a merched blwyddyn 5 a 6, sef dan 11eg ddangos eu doniau a mwynhau rygbi gan obeithio byddent yn dod draw i’r clwb i ymarfer ar nos Wener a chymeryd rhan mewn gemau ar y Sul.
Chwech o ysgolion y fro oedd yn bresennol i’r gystadleuaeth 10 bob ochr, megis Ysgol y Gelli, Maesincla a Hendre o Gaernarfon ac yna Bontnewydd, Rhostryfan a Llanrug o’r ‘wlad’.
Cafwyd gemau gwerth-chweil a gemau brwd a bu raid i’r gem derfynol rhwng Ysgol Maesincla a Rhostryfan orffen yn gyfartal ar ol hanner awr o chwarae.
Llongyfarchiadau i’r ddau dim sy’n rhannu y darian a diolch i bawb oedd yn bresennol.
There doesn't appear to be any tagged photos.
Please wait as the server processes your request. Do not attempt to refresh the page.